Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi wfftio awgrymiadau ei fod yn anghydweld â’r Canghellor Rishi Sunak ynghylch gwarchae’r coronafeirws.

Dywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News fore heddiw (dydd Sul, Ebrill 5) nad yw’n gwybod am ba hyd y bydd y mesurau yn eu lle ond y bydd modd “gwneud cynnydd” pe bai pobol yn cadw at y rheolau.

“Rydyn ni’n cydweithio’n agos,” meddai am ei berthynas â Rishi Sunak.

Torheulo

Yn ôl Matt Hancock, mae torheulo’n gyhoeddus yn torri rheolau ymbellháu cymdeithasol.

Mae’n rhybuddio pobol eu bod nhw’n peryglu bywydau pobol eraill drwy wneud y fath beth.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus, sy’n gwbl hanfodol, ac yn aros gartref,” meddai.

“Ond mae yna leiafrif bach o bobol nad ydyn nhw’n gwneud hynny o hyd – mae’n eithaf anghredadwy, a dweud y gwir, i weld bod yna rai pobol nad ydyn nhw’n dilyn y cyngor.

“Mae torheulo yn erbyn y rheolau sydd wedi’u hamlinellu am resymau iechyd cyhoeddus pwysig.

“Rydych chi’n peryglu bywydau pobol eraill ac rydych chi’n peryglu eich hunain.”