Fe fydd Brenhines Elizabeth yn cynnal darllediad teledu arbennig am y pedwerydd tro erioed heno (nos Sul, Ebrill 5).

Mae disgwyl iddi annog y genhedlaeth bresennol i brofi ei bod hi mor gryf ag unrhyw genhedlaeth arall a fu, ond bydd hi’n cydnabod y boen sydd gan nifer o deuluoedd yn ystod cyfnod mor anodd.

Mae pryderon y gallai pobol fentro allan wrth i’r tywydd wella ar ddechrau’r haf – a hynny’n groes i ganllawiau Llywodraeth Prydain.

Bydd hi’n diolch yn bersonol i staff y Gwasanaeth Iechyd, gweithwyr gofal a phobol eraill sy’n cyflawni gwaith hanfodol.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a Michael Gove, aelod o Gabinet Llywodraeth Prydain, wedi annog pobol i beidio â mynd allan ac i gadw at reolau ymbellháu cymdeithasol.

Mae rhai parciau wedi cau dros y penwythnos er mwyn atal pobol rhag mynd allan.

Mae saith o weithwyr iechyd wedi marw erbyn hyn, yn ôl Michael Gove.

Sylwadau’r Frenhines

Mae disgwyl i’r Frenhines Elizabeth ddweud ei bod hi’n “gobeithio yn y blynyddoedd i ddod fod pawb yn gallu ymfalchïo yn y ffordd y gwnaethon nhw ymateb i’r her hon”.

“Ac y bydd y bobol sy’n dod ar ein holau ni’n dweud fod Prydeinwyr y genhedlaeth hon mor gryf ag unrhyw un.

“Fod nodweddion hunanddisgyblaeth, gwytnwch tawel â hiwmor a theimlo dros gyd-ddyn yn nodweddu’r wlad hon o hyd.”

Bydd hi’n cydnabod galar, anawsterau ariannol a newidiadau enfawr sydd wedi digwydd yn sgil y feirws.

“Rwy’n siarad â chi ar amser rwy’n gwybod sy’n amser cynyddol heriol.

“Amser o anghyfleustra ym mywyd ein gwlad: anghyfleustra sydd wedi dod â galar i rai, anawsterau ariannol i nifer, a newidiadau enfawr i fywydau beunyddiol pob un ohonom.”

Darllediadau arbennig blaenorol

Dyma bedwerydd darllediad arbennig y Frenhines Elizabeth.

Cafodd y rheiny eu cynnal yn dilyn marwolaeth ei mam yn 2002, cyn angladd y Dywysoges Diana yn 1997 ac adeg Rhyfel Cynta’r Gwlff yn 1991.

Cafodd y darllediad diweddaraf ei recordio yng nghastell Windsor yn dilyn cyngor meddygol ac fe wnaeth hi a’r dyn camera gadw at reolau ymbellháu cymdeithasol yn ystod y darllediad.

Bu hi a’i gŵr, Dug Caeredin, yn aros yng nghastell Windsor ers Mawrth 19.