Mae Gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi cael eu cyhuddo o yrru “negeseuon cymysg” yn eu hymdrechion i annog pobol i newid eu harferion yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mae angen i’r Llywodraeth fynegi eu neges yn gliriach, meddai Christine Jardine, llefarydd materion cartref y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae’r mwyafrif o bobl yn awyddus i gydymffurfio gyda’r cyngor ac yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i gadw ei hunain ag eraill yn saff wrth atal y feirws rhag lledaenu,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud ymdrech i fod yn hollol glir ynghylch beth yw ei disgwyliadau a pham eu bod yn angenrheidiol.

“Dyw negeseuon cymysg gan weinidogion ddim ond yn achosi anrhefn a gofidion.”

Sawl neges aneglur

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps ddweud na ddylai pobol ddim ond mynd allan i siopa am fwyd “unwaith yr wythnos” os yn bosib.

Ond mae canllawiau’r Llywodraeth yn dweud y dylai pobl siopa “mor anfynych â phosib”, heb gyfyngu ar sawl gwaith y caiff person fynd i’r siop.

Mae’r Aelod Cabinet Michael Gove hefyd wedi dweud wrth bobol am gyfyngu rhedeg i hanner awr.

“Byddwn i’n tybio bod hyd at awr o gerdded, neu hanner awr o redeg neu feicio yn addas i’r rhan fwyaf o bobol,” meddai.

Ond mae canllawiau’r Llywodraeth yn nodi bod “un dull o ymarfer corff, megis rhedeg, cerdded neu feicio – ar ben eich hun neu gydag aelod o’ch teulu” yn cael ei ganiatáu yn y sefyllfa bresennol.

Ar ddechrau mis Mawrth, mynnodd y Prif Weinidog Boris Johnson y byddai’n parhau i ysgwyd llaw gyda phobol.

Mae o bellach yn hunanynysu wedi iddo brofi’n bositif am y coronafeirws gyda “symptomau ysgafn.”