Mae Prif ymgynghorydd y Prif Weinidog, Dominic Cummings, yn hunan-ynysu ar ôl datblygu symptomau’r coronafeirws dros y penwythnos, meddai ffynhonnell ar ran Rhif 10.

Fe fydd Dominic Cummings yn cadw mewn cysylltiad gyda gweddill y tîm yn Downing Street yn ystod ei gyfnod mewn cwarantin, meddai’r llefarydd.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog Boris Johnson, yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock, negodwr Brexit y Deyrnas Unedig, David Frost, a’r Prif Swyddog Meddygol Chris Whitty gael prawf positif am y firws neu hunan-ynysu ar ol cael symptomau Covid-19.