Fe allai gymryd hyd at chwe mis i wledydd Prydain “ddod yn ôl i drefn” yn sgil y coronafeirws, yn ôl dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr.

Ond yn ôl Dr Jenny Harries, does dim sicrwydd ar hyn o bryd y bydd yn rhaid bod dan warchae (lockdown) am y cyfnod hwnnw i gyd.

Mae 1,1228 o bobol bellach wedi marw o’r feirws yng ngwledydd Prydain, ac mae’r arbenigwyr yn rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu eto cyn gwella.

“Mae’n rhaid i ni fod yn gyfrifol iawn, iawn a pharhau i wneud yr hyn rydyn ni i gyd yn ei wneud,” meddai.

‘Dim byd tebyg mewn cyfnod o heddwch’

Yn ôl Robert Jenrick, Ysgrifennydd Tai San Steffan, mae gwledydd Prydain yn wynebu “argyfwng di-gynsail mewn cyfnod o heddwch”.

“Dydyn ni ddim wedi gwneud unrhyw beth fel hyn ers yr Ail Ryfel Byd,” meddai am y mesurau sydd wedi’u cyflwyno i helpu’r Gwasanaeth Iechyd ymdopi â’r sefyllfa.