Mae dyn hyna’r byd yn dathlu ei ben-blwydd yn 112 oed heddiw (dydd Sul, Mawrth 29) – ond does dim parti am fod yn sgil y coronafeirws.

Cafodd Bob Weighton o Alton yn Swydd Hampshire ei eni ar Fawrth 29, 1908 ac fe ddaeth yn ddyn hyna’r byd yn dilyn marwolaeth Chitetsu Watanabe o Japan fis diwethaf.

Ac yntau’n un o saith o blant, mae’n dad i dri o blant, yn dad-cu i ddeg o wyrion ac yn hen dad-cu i 25 o or-wyrion.

Yn gyn-athro a pheiriannydd, fe fu’n dathlu ei ben-blwydd gyda’i ffrindiau yn y fflatiau lle mae e’n byw ond fel pawb arall dros 70 oed, mae’n ynysu ei hun eleni.

“Mae popeth wedi’i ganslo, dim ymwelwyr, dim dathliad,” meddai wrth y Press Association.

“Does dim dathliad am fod.”

Byw trwy argyfwng iechyd

Nid dyma’r tro cyntaf iddo brofi feirws yn lledu ar draws y byd.

Yn 1918, ac yntau’n ddeg oed, fe wnaeth y ffliw Sbaenaidd ladd rhwng 50 a 100 miliwn o bobol, ond mae’n dweud nad yw’n cofio dim am y feirws.

“Dim ond mewn llyfrau hanes wnes i ddarllen amdano fe pan o’n i’n hŷn,” meddai.

“Mewn gwirionedd, do’n i ddim yn ymwybodol fod yna ffliw Sbaenaidd o gwmpas oherwydd doedd fy mrodyr, chwiorydd na neb arall o’n i’n eu nabod wedi cael eu heffeithio.

“Dw i’n siŵr eu bod nhw, ond nid byd oedolyn yw byd plentyn, dydy plentyn ddim yn darllen y papurau newydd a doedd dim radio bryd hynny, felly doeddech chi ddim yn cael y newyddion yn y modd mae e wedi’i daflu atoch chi o bob cyfeiriad heddiw.”

‘Does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd’

Ond mae’n dweud bod y feirws yn peri gofid iddo gan nad oes “neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd”.

Er iddo fyw trwy ddau ryfel byd, mae’n dweud bod y frwydr yn erbyn y coronafeirws yn wahanol iawn.

“Yn yr Ail Ryfel Byd, roeddech chi’n gwybod beth i’w wneud, efallai y byddech chi’n methu ond roedd yr amcanion yn glir gan fod Churchill wedi sicrhau cefnogaeth y wlad… ‘We will fight them on the beaches’ ac yn y blaen.

“Roedden ni’n gwybod beth yn union i’w wneud, roedd yna amcan ac roeddech chi o bosib yn gallu ei gyflawni, ond does neb yn gwybod sut fyddwn ni’n trechu’r feirws.”

Colli annibyniaeth

Yn ôl Bob Weighton, mae’r feirws yn golygu ei fod e wedi colli rhywfaint o’i annibyniaeth, ond ei fod e’n cael cyfle i wneud ambell beth gwahanol i’r arfer.

Mae e’n ddibynnol ar gymorth gweithwyr yng nghartref gofal Brendoncare, yn enwedig ar gyfer bwyd, glanhau a chodi eitemau trwm.

“Mae’n golygu fy mod i wedi dod yn fwy hunangynhaliol, gwneud fy nghoginio fy hun, glanhau, darllen y llyfrau dw i ddim wedi eu darllen.

“Dw i’n gallu gwneud llai drosof fy hun nag oeddwn i ddeng mlynedd yn ôl – alla i ddim codi pwysau, alla i ddim symud mor gyflym, alla i ddim hyd yn oed gwisgo fy hun yn iawn.

“Dw i’n ddibynnol iawn ar bobol eraill erbyn hyn.”

‘Dim cyfrinachau’

Mae’n dweud nad oes cyfrinach i fyw’n hir, ac nad oedd e’n “bwriadu byw mor hir”.

“Pan ydych chi’n ifanc, dydych chi ddim yn meddwl am beth sy’n mynd i ddigwydd pan ydych chi’n hen, rydych chi ynghlwm ynddoch chi eich hun, y cyfan rydych chi’n meddwl amdano yw’r presennol,” meddai.

Ond ei brif ddiddordebau, meddai, yw darllen a chreu melinau gwynt.

“Dyna’r pethau rydych chi naill ai’n eu gwneud yn naturiol, neu ddim o gwbl.

“Pobol sy’n cwyno yw’r rhai sydd ddim yn chwilota am bethau i’w gwneud eu hunain.”

Dim carden gan y Frenhines

Mae’n dweud ei fod e wedi gwrthod carden gan y Frenhines eleni.

“Fydda i ddim yn cael carden oherwydd dw i ddim eisiau un,” meddai.

“Dw i wedi cael tua deg, a dw i ddim yn gweld pam fod angen i’r Frenhines barhau i roi cardiau i fi.

“Mae’n costio’r trethdalwyr, nid hi, felly dw i wedi dewis un lle mae hi’n gwenu, yn edrych yn hapus ac yn fodlon, a dyna’r un dw i’n hoffi ei chadw a dw i’n cadw honno.”