Mae disgwyl i Boris Johnson anfon llythyr at bawb yng ngwledydd Prydain yn rhybuddio am fesurau llymach er mwyn mynd i’r afael â’r coronafeirws.

Fe fydd yn rhybuddio fod rhaid i bawb ddilyn y canllawiau sydd yn eu lle er mwyn i fywyd “gael dychwelyd i’r drefn arferol”.

Mae dros 1,000 o bobol bellach wedi marw yng ngwledydd Prydain, gyda’r 260 diweddaraf mewn cyfnod o 24 awr.

Ond mae arbenigwyr yn darogan y gallai’r gyfradd arafu o ddilyn rheolau ymbellháu cymdeithasol.

Mae prif weinidog Prydain ymhlith y rhai sydd wedi’u heintio, ac mae’n ynysu ei hun am gyfnod.

Y llythyr

Yn ei lythyr, dywed Boris Johnson na fydd Llywodraeth Prydain “yn oedi cyn mynd ymhellach os mai dyna fydd y cyngor gwyddonol a meddygol yn dweud wrthym am ei wneud”.

Ac mae’n dweud y bydd “pethau’n gwaethygu cyn gwella”.

Serch hynny, mae’n dweud bod y llywodraeth yn gwneud “y penderfyniadau cywir”, a “fwya’ wnawn ni ddilyn y rheolau, lleia’ o fywydau fydd yn cael eu colli”.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd e’n darogan y gallai bywyd yng ngwledydd Prydain ddychwelyd i ryw fath o drefn o fewn tri mis.

Ac roedd arbenigwr, yr Athro Neil Ferguson, o Imperial College yn Llundain yn rhybuddio y byddai angen gwarchae (lockdown) am hyd at dri mis, ac y gallai hyd at 5,700 o bobol farw pe bai’r patrwm yn dilyn yr hyn sydd wedi digwydd yn Tsieina.

Mae’n dweud ymhellach y byddai’n “ganlyniad da” pe bai Prydain yn llwyddo i osgoi cyfanswm o 20,000 o farwolaethau yn y pen draw, gan bwysleisio bod rhaid dilyn y rheolau.