Mae 246 yn rhagor o bobl wedi marw o’r coronafeirws yn Lloegr dros y 24 awr ddiwethaf. Dyma’r cynnydd mwyaf o bell ffordd i ddigwydd mewn un diwrnod ers i’r achosion gychwyn.

Mae’n cymharu â 4 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru, 7 yn yr Alban a 2 yng Ngogledd Iwerdddon dros yr un cyfnod.

Bellach, mae cyfanswm o 1,019 o gleifion wedi marw yn y Deyrnas Unedig, a 17,000 wedi profi’n bositif i’r feirws allan o 120,000 o brofnion.

Erbyn heddiw, mae 600, 000 o achosion wedi eu cadarnhau o’r haint ledled y byd, a 28,000 wedi marw.

Yn yr Unol Daleithiau mae’r nifer mwyaf o achosion erbyn hyn – 104,000 – er bod pum gwlad arall, sef yr Eidal, Sbaen, Tsieina, Iran a Ffrainc wedi profi mwy o farwolaethau na’r 1,700 yn America.