Gallai penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd fod wedi wedi paratoi’n llawer gwell ar gyfer pandemig y coronafeirws, yn ôl meddyg blaenllaw.

Mewn erthygl yn y cylchgrawn meddygol The Lancet, dywed Dr Richard Horton fod llawer o rybuddion wedi cael eu hanwybyddu gan y Gwasanaeth Iechyd.

Dywed fod rhifyn blaenorol o’r cylchgrawn, ym mis Ionawr, wedi galw am sicrhau cadwyni gyflenwi o offer meddygol a chyfarpar diogelu personol a’r adnoddau dynol angenrheidiol ar gyfer y pandemig byd-eang a oedd ar y gorwel.

Roedd yn amlwg fod cynllun gwreiddiol y llywodraeth wedi methu, meddai.

“Fe fethodd yn rhannol, oherwydd na wnaeth gweinidogion ddilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd i ‘brofi, profi, profi’ pob achos. Wnaethon nhw ddim ynysu a gosod cwarantin na chwilio ffynonellau.

“Cafodd egwyddorion sylfaenol iechyd cyhoeddus a rheoli afiechydon heintus eu hanwybyddu, am resymau sy’n parhau’n ddirgelwch.

“Y canlyniad yw anhrefn a panig drwy’r holl Wasanaeth Iechyd Gwladol.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Iechyd eu bod wedi cyhoeddi Argyfwng Cenedlaethol ar 30 Ionawr, chwe wythnos cyn i Sefydliad Iechyd y Byd gadarnhau bod y coronafeirws yn bandemig.