Mae’r Gwasanaeth Tân yn yr Alban yn coffáu 19 o ddynion tân a gafodd eu lladd mewn trychineb union 60 mlynedd yn ôl.

Tân a ffrwydrad mewn warws wisgi yn Glasgow a achosodd y trychineb ar 28 Mawrth 1960. Dyma pryd y cafodd y nifer mwyaf o ddiffoddwr tân eu lladd yn hanes y gwasanaethau tân ac achub ym Mhrydain mewn cyfnod o heddwch.

Gan nad yw Gwasanaeth Tân yr Alban yn gallu cynnal ei wasanaeth coffa blynyddol cyhoeddus, fe fydd y Prif Swyddog, Martin Blunden, yn mynd i fynwent y ddinas ar ei ben ei hun i osod torch ar y gofgolofn goffa.

“Heddiw rydym yn cofio’r 19 o ddynion a wnaeth yr aberth eithaf i amddiffyn pobl Glasgow rhag niwed,” meddai.

“Fydd ysbryd a dewrder y diffoddwyr tân hyn byth yn cael ei anghofio.”