Mae profion coronafeirws am gael eu treialu ar staff y Gwasanaeth Iechyd y penwythnos yma, i baratoi’r ffordd ar gyfer helpu’r rheini sy’n rhydd o’r salwch i ddychwelyd i’w gwaith.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet, Michael Gove, fod y Llywodraeth yn cydweithio mewn “cynghrair newydd” gyda phrifysgolion, busnesau ac ymchwilwyr i allu profi mwy o bobl.

Daw hyn wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson orfod arwain ymateb Prydain i’r achosion Covid-19 ar ôl ynysu ei hun wedi iddo gael ei brofi’n bositif am y feirws.

Mae dau o’i gydweithwyr allweddol hefyd wedi eu hunan-ynysu y penwythnos yma, wrth i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock gadarnhau fod ganddo’r coronafeirws ac ar ôl i brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, ddangos symptomau.

Wrth drafod y profion mewn cynhadledd i’r wasg ddoe, meddai Michael Gove:

“Profi antigenau fydd hyn – profi a yw’r salwch ar bobl ar hyn o bryd – fel y gall ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gael sicrwydd eu bod yn ddiogel i ddychwelyd i’r gwaith os yw’r prawf yn negyddol.

“Fe fydd y profion yn cael eu treialu ar gannoedd o bobl ar y rheng flaen dros y penwythnos, gan gynyddu’n ddramatig yr wythnos nesaf.”

Fe fydd y profion cyntaf yn cael eu gynnal ar y rheini sy’n gweithio mewn gofal dwys, adrannau achosion brys, meddygfeydd teulu a staff ambiwlans.