Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi profi’n bositif am y coronafeirws. 

Bron i ddwy awr ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi fod ganddo’r coronafeirws, dywedodd Matt Hancock fod ganddo yntau symptomau ysgafn a’i fod yn gweithio o adref ac yn hunan-ynysu. 

“Yn ffodus i mi mae’r symptomau wedi bod yn ysgafn hyd yn hyn felly rwyf wedi gallu parhau gyda fy ngwaith o barhau gydag ymateb y Deyrnas Unedig [i’r feirws],” meddai Matt Hancock.

Y Canghellor

Mae llefarydd ar ran y Canghellor Rishi Sunak wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw symptomau ac felly nid yw wedi cael ei brofi am y coronafeirws ac nid yw’n hunan-ynysu.