Mae ’na bryderon bod meddyg teulu wedi marw o’r coronafeirws – y cyntaf yng ngwledydd Prydain i farw o’r haint.

Bu farw Dr Habib Zaidi, 76, yn Ysbyty Southend yn Essex 24 awr ar ôl cael ei daro’n wael ddydd Mawrth (Mawrth 24), yn ôl y BBC.

Dyw profion heb gadarnhau ei fod wedi marw o’r coronafeirws ond dywed ei ferch, Dr Sarah Zaidi, sydd hefyd yn feddyg teulu, fod ganddo “symptomau amlwg” o’r firws.

Roedd Dr Habib Zaidi, oedd yn gweithio yn Leigh-on-Sea, wedi bod yn hunan ynysu a heb weld cleifion ers tua wythnos.