Mae carcharu pobol am beswch dros bobol eraill yn un o’r mesurau llym sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Prydain wrth geisio mynd i’r afael â’r coronafeirws.

Fe fu nifer o achosion eisoes o bobol yn peswch dros bobol eraill mewn sawl lle.

Gallai unrhyw un sy’n troseddu gael eu carcharu am hyd at ddwy flynedd yn ôl y mesurau newydd.

Mae modd cael hyd at ddwy flynedd o garchar eisoes am ymosod ar weithwyr y gwasanaethau brys, ac fe allai peswch dros bobol eraill yn fwriadol gael ei ystyried yn ffurf o ymosod.

Achosion

Mae sawl person eisoes wedi bod gerbron llys i wynebu’r fath gyhuddiadau.

Mae Darren Rafferty, 45, eisoes wedi cyfaddef iddo beswch dros blismon yn Llundain a dweud ei fod e’n dioddef o’r coronafeirws.

Fe blediodd yn euog i achosi niwed corfforol difrifol i’w gyn-bartner, a thri achos o ymosod ar weithiwr y gwasanaeth brys, ac fe fydd e’n cael ei ddedfrydu fis nesaf.

Yn Blackburn, mae David Mott, 40, wedi’i garcharu am 26 wythnos am fygwth poeri ar blismon ar ôl iddo gal ei holi mewn perthynas â rheolau ymbellháu cymdeithasol.

Mae Mehdi Razmdideh, 35, wedi’i gyhuddo o ddwyn o siop ac o ymosod ar Heddlu West Midlands, ac fe wnaeth e beswch dros weithiwr siop yn Birmingham gan honni ei fod e wedi’i heintio â’r coronafeirws.

Ac fe wnaeth criw o bobol yn eu harddegau boeri yn wyneb gweithiwr RSPCA wrth iddi achub alarch.

Erlyn

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae canllawiau newydd gafodd eu cyflwyno ddechrau’r flwyddyn yn cryfhau’r modd y mae achosion o ymosod ar weithwyr y gwasanaethau brys yn cael ei drin.

Mae bron i 20,000 o erlyniadau wedi bod ers i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn dyblu’r ddedfryd.

Mae Ffederasiwn yr Heddlu’n galw am weithredu’r ddeddfwriaeth newydd yn llym, ac mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi beirniadu’r holl ymosodiadau diweddar.