Fe fydd yr Uwch Gynghrair, Cynghrair Bêl-droed Lloegr a Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol yn cyfarfod yfory (dydd Gwener, Mawrth 27) i drafod effaith ariannol y coronafeirws.

Ddydd Mercher (Mawrth 25), galwodd Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol am gyfarfod brys ynghylch rhai o’r mesurau sy’n cael eu cynnig a’u hystyried gan glybiau o ran cyflogau chwaraewyr.

Mae’n debyg bod yr Uwch Gynghrair yn ystyried mesurau i ohirio cyflogau chwaraewyr dros dro.