Mae gwasanaeth newyddion y BBC wedi gohirio cynlluniau i gael gwared ar 450 o swyddi.

Cafodd y toriadau eu cyhoeddi ym mis Ionawr, ac mi fyddan nhw’n rhan o gynllun i arbed £80m erbyn 2022.

Wrth siarad â’r staff, mae’r Arglwydd Tony Hall wedi dweud mai her y coronafeirws sy’n gyfrifol am y gohirio.

“Byddai’n amhriodol,” meddai.

“Does dim gyda ni’r adnoddau i fwrw ati gyda’r cynlluniau yna ar hyn o bryd. Felly dawn ni yn ôl i hynny rhyw ben.

“Am y tro, rydym jest eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cefnogi a bod gyda chi’r adnoddau i wneud y swydd yr ydych chi, a’ch cydweithwyr, yn ei wneud yn wych.”

Mae rhai rhaglenni eisoes wedi eu tynnu oddi ar yr awyr er mwyn blaenoriaethu deunydd am y coronafeirws, ac mae sawl rhwydwaith radio yn rhannu bwletinau newyddion.

Rhaglenni

Ymhlith y rhaglenni a gorsafoedd a fydd yn cael eu heffeithio mae Newsnight ar BBC Two, BBC Radio 5 Live, a World Update y gwasanaeth rhyngwladol.

Mae golwg360 wedi gofyn am gadarnhad gan y BBC ynghylch a oedd swyddi yng Nghymru ymhlith y 450 a fyddai wedi’u torri.