Mae Tywysog Charles, 71, wedi cael prawf positif ar gyfer y coronafeirws, ac mae e a’i wraig Camilla yn ynysu eu hunain yn yr Alban.

Er bod Duges Cernyw, 72, wedi cael prawf, dydy hi ddim wedi’i heintio, meddai llefarydd.

Mae’r ddau mewn hwyliau a iechyd da.

Dydy hi ddim yn glir sut y cafodd ei heintio, ond roedd ddau wedi bod yn ymgymryd â dyletswyddau swyddogol ar ddechrau’r mis.

Mae pawb sydd wedi dod i gyswllt â nhw wedi cael gwybod, ond dydy ei fam, Brenhines Loegr ddim yn un ohonyn nhw.

Ond mae hi a’i feibion, William a Harry wedi cael gwybod hefyd.

Yn ôl y llefarydd, mae’r holl deulu brenhinol yn dilyn cyngor yr awdurdodau iechyd.

Ddechrau’r mis, cafodd Camilla ei beirniadu am jôc sâl.