Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi na fydd perchnogion cerbydau ym Mhrydain yn gorfod cael profion MOT am chwe mis yn sgil y coronafeirws.

Fydd dim rhaid i geir, faniau na beiciau modur gael eu profi o Fawrth 30 ymlaen.

Ond mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio bod yn rhaid iddyn nhw gadw eu cerbydau mewn cyflwr derbyniol i fynd ar y ffordd.

Bydd modurdai yn aros ar agor ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y sawl sy’n helpu’r wlad i frwydro’r coronafeirws yn gallu gwneud hynny,” meddai Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

“Mae caniatáu’r rhyddhad dros dro yma o brofion cerbydau yn galluogi’r gwasanaethau hanfodol yma i barhau i weithredu, gweithwyr  i allu teithio i’r gwaith, a phobol i dderbyn bwyd a meddyginiaethau.

“Mae diogelwch yn allweddol, a dyna pan fydd modurdai yn aros ar agor ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol.”