Fe fydd elusen sy’n cefnogi ffoaduriaid mewn canolfannau cadw yn galw ar yr Uchel Lys i’w rhyddhau nhw ar unwaith os oes ganddyn nhw gyflwr iechyd.

Mae Detention Action o’r farn fod cyfran uchel o’r 1,500 o ffoaduriaid mewn canolfannau’n dioddef o gyflwr sy’n cynyddu’r risg y gallen nhw gael eu heintio â’r coronafeirws.

Ac fe fyddan nhw’n dadlau hefyd na fydd modd symud ffoaduriaid oherwydd y cyfyngiadau teithio, a bod hynny’n gwneud eu cadw nhw mewn canolfannau’n anghyfreithlon.

Yr afiechydon dan sylw yw afiechyd y galon, clefyd siwgr, problemau anadlu, canser ac afiechyd yr iau.

Mae’r elusen yn rhybuddio y gallai nifer fawr o bobol farw oni bai bo nhw’n cael eu rhyddhau.

Y sefyllfa

Mae lle i gredu mai dyma’r achos llys cynta’n ymwneud â’r coronafeirws.

Yn ôl arbenigwyr, gallai hyd at 60% o bobol mewn canolfannau cadw gael eu heintio â’r feirws.

Y prif reswm am hynny, meddai’r elusen, yw fod canolfannau’n orlawn ac mae safonau hylendid yn isel iawn oherwydd prinder glanhawyr a chyfleusterau.

Mae nifer fawr o’r rhai mewn canolfannau’n dod o wledydd lle mae nifer fawr o achosion o’r feirws hefyd, gan gynnwys yr Eidal, Iran a Tsieina.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, dylid ynysu unrhyw un yn y ddalfa sydd â symptomau, ond mae hynny’n aneffeithiol, yn ôl yr elusen.

Dywed y Swyddfa Gartref eu bod nhw’n dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Lloegr.