Mae heddlu Swydd Efrog wedi datgelu eu bod wedi derbyn galwadau 999 yn holi am oriau agor siopau ac os allan nhw ddosbarthu petrol ar ôl cyhoeddiad y Prif Weinidog Boris Johnson neithiwr , (Dydd Llun, Mawrth 24).

Mae staff yng nghanolfan reoli’r swyddfa heddlu wedi troi at Twitter i ddweud am yr holl alwadau ofer mae’n nhw’n eu derbyn yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Gan ddefnyddio’r hashnod #Not999, mae adroddiadau am alwadau am bapur tŷ bach sydd yn rhy ddrud a chyfyngiadau ar brynu nwdls.

Mae’r heddlu yn barod wedi cyhoeddi datganiad yn gofyn i bobl “feddwl yn ofalus” cyn galw 999 er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl mewn gwir argyfwng yn medru derbyn cymorth yn gyflym.

Ond, am 5.37 fore Mawrth, Mawrth 24, trydarodd heddlu Swydd Efrog:

“Newydd dderbyn galwad 999 yn holi pa amser mae Asda yn agor… fe ddigwyddodd hyn go iawn. #Not999.”