Mae profi staff y Gwasanaeth Iechyd am Covid-19 yn un o’r “materion mwyaf sydd angen ei ddatrys ar frys” yn ôl prif weithredwr cymdeithas darparwyr y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae ysbytai yn colli llawer o staff oherwydd y niferoedd mewn grwpiau bregus, fel beichiogrwydd neu dros eu 70 oed, a rhai gyda aelodau o’u teulu sydd yn gorfod hunan ynysu,” meddai Chris Hopton.

“Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar ein hysbytai i allu rhoi’r ansawdd gorau mewn gofal ar y linell flaen.”

Dywedodd Chris Hopton hefyd fod profi staff yn eu galluogi i adnabod y rhai fyddai’n gallu dychwelyd yn ôl i’w gwaith cyn diwedd cyfnod hir o hunan ynysu o bosib, ac y byddai hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr i niferoedd y staff.

“Mae profi staff hefyd yn galluogi ysbytai i brofi staff allweddol fel arweinwyr Unedau Gofal Dwys sy’n dechrau dangos symptomau posib.”

Yn ôl Jonathan Ashworth, Llefarydd Iechyd Llafur, mae’n nhw wedi galw ar y Llywodraeth “sawl gwaith i gynyddu’r profi dros sawl wythnos.”

“Mae angen eglurhad brys gan weinidogion am beth yw eu cynlluniau profi a pham fod unrhyw weithredu wedi cymryd cyhyd.”