Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi’i gael yn ddieuog o geisio treisio ac ymosod yn rhywiol.

Mae’n dilyn achos yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin.

Roedd Alex Salmond, 65, wedi’i gyhuddo o geisio treisio ac ymosod yn rhywiol, gan gynnwys un a’r bwriad o dreisio, yn erbyn naw o fenywod. Nid oedd modd profi un achos arall yn ei erbyn.

Roedd wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe ddigwyddodd yr holl droseddau honedig rhwng 2008 a 2014, yn ôl erlynwyr.

Wrth roi tystiolaeth yn y llys ar Fawrth 17 dywedodd Alex Salmond bod rhai o’r cyhuddiadau yn ei erbyn wedi eu “ffugio am resymau gwleidyddol.”