Fe fydd holl achosion llys lle mae rheithgor yn bresennol yn dod i stop yng Nghymru a Lloegr mewn ymdrech i atal lledaeniad Covid-19.

Mewn datganiad ddydd Llun (Mawrth 23) dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Burnett, na fydd unrhyw achosion newydd yn cael eu cynnal. Bydd achosion sydd eisoes wedi dechrau yn cael eu gohirio tra bod trefniadau yn cael eu rhoi mewn lle fel eu bod yn gallu parhau’n ddiogel.

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd yr Arglwydd Burnett na fyddai unrhyw achosion newydd a fyddai’n para tridiau neu fwy yn cael eu cynnal wrth i’r argyfwng waethygu.

Ond yn dilyn pwysau gan aelodau o’r proffesiwn yn galw ar y Llywodraeth i stopio gwrandawiadau llys, fe benderfynwyd rhoi’r gorau i holl achosion newydd.

Dywedodd yr Arglwydd Burnett bod trefniadau yn cael eu gwneud i gynnal cymaint o wrandawiadau a phosib drwy ddefnyddio’r ffon, cyswllt fideo neu dechnoleg arall.