Fe fydd Heddlu’r Alban yn gallu gorfodi tafarndai ac unrhyw leoliadau trwyddedig eraill i gau eu drysau o heddiw ymlaen (dydd Sul, Mawrth 22).

Mae’n rhan o gyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno wrth ymateb i’r coronafeirws.

Ddydd Gwener (Mawrth 20), cafodd lleoliadau adloniant trwyddedig eu hannog i gau er mwyn atal ymlediad y coronafeirws.

Mae’r heddlu’n canmol y nifer fawr o leoliadau trwyddedig sydd wedi cydymffurfio â’r cyngor i gau hyd yn hyn, ond mae lleiafrif bach wedi gwrthod gwneud hyd nes y bydd yn rhaid iddyn nhw yn ôl y gyfraith.

Mae’r lleoliadau trwyddedig hyn yn cynnwys tafarndai, clybiau, bwyta a champfeydd.

Mae’r awdurdodau’n dweud bod methu â chydymffurfio’n peryglu bywydau cwsmeriaid a’r gymuned ehangach.

Ar ôl cael y pwerau newydd, fe fydd Heddlu’r Alban yn gallu gorfodi lleoliadau i gau am 24 awr os ydyn nhw’n gwrthod cydymffurfio â’r cyngor sy’n cael ei roi.

Does dim terfyn ar sawl gwaith gall yr heddlu orchymyn lleoliadau i gau eu drysau os ydyn nhw’n parhau i anwybyddu’r gorchymyn, a bydd unrhyw leoliad sy’n torri’r gorchymyn yn cael eu cyfeirio at y Bwrdd Trwyddedu.

Mae 416 o bobol wedi profi’n bositif ar gyfer y feirws yn yr Alban, a deg o bobol wedi marw.