Mae degau ar filoedd o feddygon a nyrsys sydd newydd ymddeol yn cael eu gwahodd i ddychwelyd i’r gwaith er mwyn helpu gyda’r coronafeirws.

Dywedodd y Gwasanaeth Iechyd eu bod yn gobeithio y bydd cymaint â 65,000 o feddygon sydd wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn helpu i fynd i’r afael a’r “bygythiad byd eang mwyaf i iechyd yn ein hanes”.

Daw hyn wrth iddi ddod i’r amlwg y gallai gweithwyr y gwasanaethau brys sydd wedi ymddeol hefyd gael eu gwahodd i ddychwelyd i’r gwaith.

Dywedodd Maer Llundain Sadiq Khan eu bod yn y broses o ysgrifennu at swyddogion yr heddlu sydd wedi ymddeol i ddychwelyd nôl i’r gwaith i wneud gwaith swyddfa.

Fe allai diffoddwyr tan o dan 70 oed hefyd gael cynnig i helpu.

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd (GIG) fe fyddan nhw hefyd yn cynnig gwaith dros dro i fyfyrwyr meddygol a nyrsys yn eu blwyddyn olaf.

Fe fydd y rhai sy’n ymuno a “Byddin y GIG” yn cael eu hasesu i weld sut fath o help maen nhw’n gallu cynnig yn ystod cyfnod y pandemig.