Wrth i’r coronafeirws ledaenu ymhellach, mae disgwyl cyhoeddiad am gymorth ariannol i weithwyr y Deyrnas Unedig.

Mae’r Canghellor, Rishi Sunak, wedi cael ei feirniadu gan y Blaid Lafur, undebau, ac ambell Aelod Seneddol Ceidwadol am ei ymateb i her y firws.

Ond yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, Mawrth 20) mae disgwyl iddo gyhoeddi camau newydd mewn cynhadledd i’r wasg yn Downing Street.

Ddydd Mercher (Mawrth 18) mi gyhoeddodd pecyn £350bn i helpu busnesau, ond roedd peth beirniadaeth na fyddai’r swm yma yn lawer o help i weithwyr.

Angen “swm anferthol”

Mewn colofn i’r Daily Mirror mae’r cyn-ysgrifennydd busnes, Greg Clark, a’r cyn-weinidog cysgodol, Jack Dromey, wedi galw ar y wladwriaeth i ddarparu “swm anferthol” o gefnogaeth.

“Adeg yr argyfwng ariannol byd eang wnaeth llywodraethau fenthyca i’r sustem fancio – a phrofodd hynny i fod yn hollbwysig,” medden nhw. “Y tro yma mae’n wahanol.

“Bydd yn rhaid i’r wladwriaeth ddarparu swm anferthol. Ar gyfer busnes dylai cymorth… alluogi gweithwyr i barhau i gael eu cyflogi.”

12 wythnos

Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud ei fod yn disgwyl i bethau newid am y gorau o fewn 12 wythnos.

Mae hefyd wedi erfyn ar y cyhoedd i gadw draw rhag eraill pan fo hynny’n bosib, ac mae wedi galw ar fusnesau i “sefyll ochr yn ochr â’ch gweithwyr”.