Mae Banc Lloegr wedi torri cyfradd llog i lawr i 0.1% – y lefel isaf erioed – ac wedi rhyddhau £200 biliwn arall i geisio adfer yr economi.

Dyma’r ail dro o fewn wythnos i’r Banc weithredu yn wynebu yr argyfwng ariannol yn sgil y coronafeirws.

Pleidleisiodd aelodau’r Pwyllgor Polisi Monetaraidd yn unfrydol mewn cyfarfod arbennig i dorri’r gyfradd llog ymhellach ac argraffu £200 biliwn ychwanegol o arian.

Mewn datganiad, dywedodd y Banc: “Bydd lledaeniad y Covid-19 a’r mesurau sy’n cael ei cymryd i reoli’r feirws yn arwain at sioc economaidd a allai fod yn llym ac yn fawr, ond dylai hyn fod dros dro yn unig.”

Roedd wedi cymryd y camau ychwanegol hyn yn sgil “tystiolaeth sy’n ymwneud â’r economi a marchnadoedd arian domestig a byd-eang”, wrth i gyfranddaliadau ddisgyn yn eu gwerth ledled y byd.