Mae Fine Gael a Fianna Fail wedi cynnal cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Mawrth 18) i drafod polisi wrth i ymdrechion i ffurfio llywodraeth barhau.

Mae’n debyg y bydd rhan helaeth o’r trafodaethau’n ymwneud â’r ymateb i ddelio ag effaith coronafeirws yn hytrach na pholisi ehangach.

Mewn anerchiad i’r wlad ar Ddydd San Padrig, dywedodd y Taoiseach Leo Varadkar bod swyddogion yn darogan y gallai nifer yr achosion o’r feirws gyrraedd 15,000 erbyn diwedd mis Mawrth.

Os bydd Finna Fail a Fine Gael yn ffurfio clymblaid, ni fydd ganddyn nhw ddigon o seddi i ffurfio llywodraeth fwyafrifol.

Mae’n bosib y bydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar nifer o aelodau annibynnol, gyda’r Blaid Werdd sydd ag wyth sedd, yn gwrthod cynnal unrhyw drafodaethau i ffurfio llywodraeth.

Ddydd Llun (Mawrth 16), galwodd y ddwy blaid am ffurfio “llywodraeth o undod cenedlaethol” o bob plaid i ddelio’r â’r pandemig.

Dywedodd arweinydd Fianna Fail, Micheal Martin, ddydd Sul (Mawrth 15), fod ei blaid yn barod i ffurfio llywodraeth gyda Fine Gael i ddelio â’r coronafeirws.

“Dwi’n barod i wneud hynny, mewn adegau fel hyn mae’n rhaid i chi gymryd yr awenau a sicrhau fod llywodraeth fwyafrifol yn cael ei ffurfio,” meddai.