Mae gwasanaeth coffa olaf Hillsborough wedi cael ei ohirio oherwydd y coronafeirws.

Roedd disgwyl i’r gwasanaeth gael ei gynnal yng nghae pêl-droed Anfield yn Lerpwl ar Ebrill 15, union 31 o flynyddoedd ers y trychineb yn Sheffield.

Ar Ebrill 15, 1989, roedd Lerpwl yn herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr pan gafodd cefnogwyr eu gwasgu i farwolaeth.

Bu farw 96 o gefnogwyr.

Cafwyd y cyn-blismon David Duckenfield, oedd yn gyfrifol am blismona’r gêm, yn ddieuog o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol mewn ail achos llys fis Tachwedd y llynedd, ac fe gafodd penderfyniad ei wneud bryd hynny i gynnal un gwasanaeth blynyddol olaf.

‘Cadw pobol yn ddiogel’

“Yn wyneb digwyddiadau diweddar, cafodd penderfyniad ei wneud ar y cyd gan y teuluoedd i ohirio ein gwasanaeth coffa olaf yn Anfield,” meddai Margaret Aspinall ar ran y teuluoedd.

“Rydym yn dymuno cadw cynifer o bobol â phosib yn ddiogel ac rydym yn credu mai dyma’r cam cywir.

“Rydym yn gobeithio rhoi diweddariad yn y dyfodol agos am ddyddiad newydd ar gyfer y gwasanaeth.

“Ar ran Grŵp Cefnogi Teuluoedd Hillsborough, hoffwn ddiolch i bawb am eu dealltwriaeth yn hyn o beth.

“Hoffwn hefyd ofyn i chi ymuno â ni mewn gweddi ar Ebrill 15 i gofio’r 96 ac i gadw’r teuluoedd a phawb sydd wedi’u heffeithio yn eich meddyliau ar yr adeg anodd hon.”