Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi cyfres o fesurau llym i geisio mynd i’r afael a’r coronafeirws.

Fe ddylai pawb yn y Deyrnas Unedig osgoi tafarndai, clybiau a theatrau, unrhyw gysylltiad gyda phobl eraill sydd ddim yn angenrheidiol, ynghyd a theithio os nad oes angen, a gweithio o adref os yn bosib, meddai’r Prif Weinidog.

Mewn cynhadledd newyddion prynhawn ma (dydd Llun, Mawrth 16), dywedodd Boris Johnson bod angen “gweithredu’n eithafol” er mwyn mynd i’r afael a’r “twf cyflym” yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ar draws y Deyrnas Unedig.

Fel rhan o’r mesurau fe fydd unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd a pheswch parhaus neu dymheredd yn gorfod ynysu eu hunain am 14 diwrnod.

“Mae hynny’n cynnwys peidio mynd allan i brynu bwyd na nwyddau eraill oni bai eich bod yn gwneud ymarfer corff, a rhaid gwneud hynny o bellter diogel rhag eraill,” meddai Boris Johnson.

Camau “eithafol”

Dylai pawb osgoi digwyddiadau mawr a llefydd prysur tra bydd yn rhaid i bobl fregus, gan gynnwys yr henoed, gymryd camau mwy eithafol.  Dylai pobl dros 70 oed, menywod beichiog a phobl sydd a chyflyrau iechyd, osgoi cysylltiad cymdeithasol gyda phobl eraill cymaint a phosib.

“Heb weithredu’n eithafol fe allai nifer yr achosion ddyblu bob pump i chwe diwrnod,” meddai.

“Dyma’r adeg y dylai pawb stopio cysylltiad sydd ddim yn angenrheidiol gydag eraill a rhoi’r gorau i deithio oni bai bod rhaid,” meddai.

Mae wedi annog pobl sy’n byw yn Llundain i gymryd sylw o’r mesurau sy’n cael eu hawgrymu gan y Llywodraeth, oherwydd nifer cynyddol yr achosion yno. Dywedodd bod uchafbwynt y firws yn digwydd yn gynt mewn rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig nag eraill.

Marwolaeth cyntaf yng Nghymru

Fe allai mesurau eraill – fel cau ysgolion – fod yn angenrheidiol yn y dyfodol agos ond nid ar hyn o bryd.

Daw’r mesurau newydd wedi i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r coronafeirws. Roedd y claf yn 68 oed ac wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

Mae 55 o bobl bellach wedi marw o’r haint yn y Deyrnas Unedig ac mae 1,543 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19.

£475m i Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi o leiaf £1.5bn i’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ganddyn nhw’r adnoddau i helpu pobl a busnesau wrth ymateb i Covid-19.

Fe fydd hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n derbyn £475m.