Gallai’r heddlu gael yr hawl i arestio pobol sydd wedi’u heintio ac sy’n gwrthod ynysu eu hunain, a gallai carcharorion gael eu rhyddhau, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Prydain i fynd i’r afael â Coronafeirws.

Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi bod yn amlinellu bwriad y llywodraeth, gan ddweud na fyddan nhw’n “stopio” wrth ddod o hyd i atebion i’r sefyllfa.

Ymhlith y mesurau eraill dan ystyriaeth mae cau bariau, bwytai a siopau heblaw am archfarchnadoedd a fferyllfeydd.

Mae 21 o bobol wedi marw yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

Arestio pobol sydd wedi’u heintio

Ymhlith y mesurau mwyaf dadleuol dan ystyriaeth mae rhoi’r hawl i’r heddlu arestio pobol sydd wedi’u heintio.

“Rydym ni am gymryd y pwerau er mwyn sicrhau y gallwn ni roi pobol dan gwarantîn os ydyn nhw’n peri risg i iechyd y cyhoedd, ydyn, ac mae hynny’n bwysig,” meddai Matt Hancock wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i’n amau y bydd ei angen arnon ni ryw lawer oherwydd mae pobol wedi bod yn gyfrifol iawn.”

Carchardai

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas y Swyddogion Carchardai yn dweud y gallai carcharorion gael mynd yn rhydd o’r carchar fel rhan o’r cynlluniau i reoli’r sefyllfa.

Mae llefarydd yn dweud bod y sefyllfa’n “ddi-gynsail” i garcharorion a’r staff.

Mae Iran eisoes wedi rhyddhau degau o filoedd o garcharorion.

“Mae llywodraethau blaenorol wedi gwneud yr hyn oedd yn cael ei alw’n rhyddhau gweithredol ar garcharorion, a allai ddod yn y dyfodol er mwyn creu lle mewn carchardai,” meddai’r llefarydd.

Mae lle i gredu y gallai carcharorion gael eu rhyddhau dros dro neu’n barhaol os ydyn nhw’n dod i ddiwedd dedfryd.

Mae 75 o garcharorion wedi’u hynysu ar hyn o bryd, ond mae’r llefarydd yn rhybuddio y gallai cadw carcharorion mewn celloedd unigol beri problemau.

Mae ymwelwyr yn cael eu cynghori i gadw draw o garchardai os oes ganddyn nhw symptomau.