Tra bod arbenigwyr meddygol wedi lled groesawu mesurau newydd i ddiogelu’r cyhoedd rhag coronafeirws, mae’r cyn-Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, wedi beirniadu’r camau diweddaraf gan ddweud nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.

Mae Boris Johnson wedi dweud y dylai unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws, fel peswch a gwres uchel, aros adre am o leiaf saith diwrnod.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y dylai teithiau tramor ysgolion gael eu canslo ac mae wedi cynghori na ddylai pobl dros 70 oed sydd â chyflyrau iechyd meddygol difrifol fynd ar wyliau ar longau pleser.

Daw hyn yn dilyn galwadau i gau ysgolion a chanslo digwyddiadau chwaraeon a gwyliau ar ôl i fesurau tebyg gael eu cymryd gan yr awdurdodau yn yr Eidal, lle mae nifer y meirw wedi cyrraedd mwy na 1,000.

“Argyfwng cenedlaethol”

Fe gyhoeddodd Iwerddon ddydd Iau (Mawrth 12) y byddai’n cau ysgolion, colegau ac adnoddau cyhoeddus eraill o heddiw ymlaen am bythefnos fel rhan o’u mesurau i fynd i’r afael ag achosion  o Covid-19.

Yn ôl rhai arbenigwyr meddygol mae cynlluniau’r Deyrnas Unedig yn “gall” ond mae eraill wedi dweud nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.

Mae Jeremy Hunt wedi son am ei bryder ynglŷn â’r hyn mae’n ei alw’n “argyfwng cenedlaethol”.

Mewn cyfweliad gyda BBC Newsnight dywedodd ei fod wedi ei “synnu” nad oedd y Llywodraeth wedi canslo digwyddiadau mawr “pan mai dim ond pedwar wythnos sydd cyn i ni gyrraedd yr un sefyllfa a’r Eidal.”