Fe fydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod brys gyda gweinidogion er mwyn trafod ymateb y Deyrnas Unedig i’r coronafeirws yn dilyn marwolaeth trydydd person.

Fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr nos Sul (Mawrth 8) bod dyn yn ei 60au, oedd a phroblemau iechyd, wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Gogledd Manceinion ar ôl cael prawf positif am y firws Covid-19.

Daw hyn wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig gynyddu i 278, ar ôl i fwy na 23,500 o bobl gael prawf.

Mae disgwyl i Boris Johnson ddweud wrth bwyllgor argyfyngau Cobra y Llywodraeth heddiw (Dydd Llun, Mawrth 9) y bydd “angen ymdrech genedlaethol a rhyngwladol” i fynd i’r afael a’r firws.

“Rwy’n hyderus y bydd pobl Prydain yn barod i chwarae eu rhan yn hynny,” mae disgwyl iddo ddweud wrth weinidogion.

Fe fydd y pwyllgor yn asesu a ddylai’r Deyrnas Unedig gymryd y camau nesaf yn yr ymdrech i fynd i’r afael a’r firws.

Byddai hynny’n golygu bod angen i’r prif swyddog meddygol yr Athro Chris Whitty a’r prif ymgynghorydd gwyddonol Syr Patrick Vallance i gytuno ar unrhyw gamau pellach. Mae disgwyl i’r ddau fod yn y cyfarfod heddiw.

Chwaraeon

Fe fydd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon hefyd yn cynnal cyfarfod heddiw i drafod sut i fynd i’r afael ag effaith posib coronafeirws ar y calendr chwaraeon.

Cyfyngiadau ar eitemau mewn archfarchnadoedd

Yn y cyfamser mae archfarchnadoedd wedi  cyhoeddi cyfyngiadau ar rai eitemau fel pasta, sebon dwylo a chadachau gwrthfacterol yn dilyn adroddiadau bod pobl yn prynu mewn panig.

Mae’r Swyddfa Dramor hefyd wedi cyhoeddi ei bod yn “gweithio’n ddwys” gyda’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau i drefnu bod dinasyddion o Brydain sydd ar long bleser y Grand Princess yn Oakland, California, yn cael hedfan nôl adre, yn dilyn achosion o’r coronafeirws ar y llong.

Gogledd yr Eidal

Ac mae pobl yng ngwledydd Prydain wedi cael rhybudd i osgoi teithio i rannau helaeth o ogledd yr Eidal, gan gynnwys Milan a Fenis, oni bai bod hynny’n hanfodol.

Mae teithwyr sy’n dychwelyd o’r ardaloedd hynny yng ngogledd yr Eidal yn cael eu cynghori i hunan-ynysu os ydyn nhw wedi dychwelyd i’r Deyrnas Unedig o fewn y 14 diwrnod diwethaf, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau.

Mae nifer y marwolaethau yn yr Eidal bellach wedi cynyddu i 366 gyda chyfyngiadau ar amgueddfeydd, sinemâu, canolfannau siopau a bwytai hyd at ddechrau mis Ebrill.