Wrth i’r dadlau gynyddu o fewn yr SNP ar sut i hawlio annibyniaeth i’r Alban, mae AS blaenllaw o’r blaid yn argymell gwrthod y syniad fod refferendwm yn angenrheidiol.

Dywed Angus McNeil, AS Ynysoedd y Gorllewin, y dylai buddugoliaeth i’r SNP yn etholiad senedd yr Alban y flwyddyn nesaf yn fandad am annibyniaeth os yw Boris Johnson yn dal i wrthod refferenwm.

Fe fydd ef, ynghyd ag un o gynghorwyr y blaid, Chris McEleny, yn pwyso am eu ffordd amgen at annibyniaeth mewn cynhadledd undydd yn Aviemore ym mis Mehefin.

Eu dadl yw na ellir ymladd etholiad 2021 “dim ond er mwyn ennill yr un mandad sydd wedi cael ei anwybyddu’n barhaus heb i’r SNP gael ail gynllun i sicrhau bod pris gwleidyddol i’w dalu gan Boris Johnson”.

‘Blwch pleidleisio fel mandad’

Meddai Angus MacNeil:

“Mae’n rhaid cael mecanwaith i’r Albanwyr gael rhoi barn ar annibyniaeth.

“Os yw pob refferendwm cyfreithlon yn cael ei rwystro, yna rhaid inni allu defnyddio’r blwch pleidleisio ac etholiad fel mandad.”

Daw ei sylwadau ar ôl i arweinwyr yr SNP, gan gynnwys phrif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, alw ar aelodau ar lawr gwlad i fod yn amyneddgar.

Barn Nicola Sturgeon yw bod yn rhaid sicrhau cyfreithlondeb unrhyw refferendwm fel na ellir amau ei ddilysrwydd.

Mae’n amlwg bellach fod nifer cynyddol o aelodau ei phlaid yn gwrthod hyn.

“Nid yw polisi’r SNP ar refferendwm yn gwbl hanfodol i’n hachos cenedlaethol,” meddai Chris McEleny, arweinydd yr SNP ar gyngor Inverclyde.

“Yn 2021, dylai pleidlais seneddol dros yr SNP fod yn bleidlais dros annibyniaeth i’r Alban.”