Mae arweinydd Cyngor Sir Cernyw yn galw ar y llywodraeth i roi blwch ticio ac arno’r dewis i nodi hunaniaeth Gernywaidd ar ffurflen y Cyfrifiad y flwyddyn nesaf.
Mae Julian German yn dadlau pwysigrwydd hyn mewn neges dydd gŵyl nawddsant Cernyw sydd wedi ei chyhoeddi ar Twitter, lle mae’n dymuno ‘Dydh Sen Pyran Lowen’ i bawb.
“Mae Diwrnod San Pyran yn ein hatgoffa ni pam fod yn rhaid inni warchod hunaniaeth unigryw Cernyw,” meddai.
Yn ei neges, mae’n galw hefyd am gyllid teg a mwy o bwerau i Gernyw.