Fe fydd cwmni siopau John Lewis Partnership yn talu’r bonws isaf ers 1953 i’w weithwyr ar ôl dioddef cwymp o 23% yn ei elw y llynedd.

Fe fydd bonws staff y cwmni sy’n rhedeg siopau Waitrose yn ogystal â siopau adrannol John Lewis i lawr i 2% o’u cyflog blynyddol eleni.

Cyhoeddodd cadeirydd newydd y cwmni, Sharon White, hefyd y bydd tair o siopau Waitrose yn cau yn Lloegr eleni.

“Mae angen inni drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio fel partneriaeth, a gallai gymryd tair i bum mlynedd i ddangos canlyniadau,” meddai. “Does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni’n dod drwyddi’n gryfach.”