Bydd cyn-weinidog Catalanaidd yn ymddangos gerbron llys yn yr Alban heddiw.

Mae Clara Ponsati yn gyn-Gwnsler Addysg ac mae wedi’i chyhuddo o annog gwrthryfel trwy chwarae rhan yn refferendwm annibyniaeth 2017.

Mae’n wynebu cael ei hestraddodi i Sbaen, ac mae disgwyl cryn drafod am y warant amdani yn y gwrandawiad yn Llys Siryf Caeredin.

Yn sgil Brexit mae Sbaen wedi derbyn pum sedd newydd yn Senedd Ewrop, ac mae’r academydd o Brifysgol St Andrews bellach wedi dod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd.

Mae ei thîm cyfreithiol eisoes wedi dadlau y dylai dderbyn breintryddid cyfreithiol am ei bod bellach yn wleidydd yn Senedd Ewrop.