Mae Camilla, Duges Cernyw, wedi gwneud jôc sâl am ynysu ei hun wrth iddi gerdded i mewn i loches rhyfel mewn amgueddfa.

Daw’r jôc anffodus yn Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos fod 85 o achosion o coronavirus yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

Roedd hi a Thywysog Charles yn ymweld â’r amgueddfa i nodi ugain mlynedd ers sefydlu Transport for London.

Gwisgodd hi fenyg ar gyfer yr ymweliad, wrth i’r ddau siglo dwylo rhai o’r bobol y gwnaethon nhw gyfarfod â nhw.

Gwisgodd Brenhines Loegr fenyg wrth ddosbarthu anrhydeddau ym Mhalas Buckingham ddoe.