Mae dyn 27 oed wedi’i gyhuddo o drosedd fewnfudo mewn perthynas ag achos 39 o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn lori yn Essex y llynedd.

Bydd Alexandru-Ovidiu Hanga o Tilbury yn mynd gerbron ynadon Basildon heddiw (dydd Mercher, Mawrth 4), wedi’i gyhuddo o gynllwynio i smyglo pobol o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i wledydd Prydain.

Fe ddaw yn sgil ymchwiliad i’r cynhwysydd lori y cafwyd hyd iddo yn Grays ar Hydref 23 y llynedd.

Roedd deg o bobol yn eu harddegau ymhlith y rhai fu farw.

Yn ôl Heddlu Essex, maen nhw o’r farn fod y bobol o Fietnam wedi dod i wledydd Prydain yn anghyfreithlon, ac maen nhw’n apelio arnyn nhw am wybodaeth.