Mae rhagor o honiadau o fwlio yn erbyn Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan.

Maen nhw’n ymwneud â’i chyfnod yn Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, wrth i un o uwch swyddogion yr adran honno ddisgrifio “tswnami” o honiadau, yn ôl rhaglen Newsnight y BBC.

Daw’r honiadau pellach ar ôl i Syr Philip Rutnam, prif was sifil y Swyddfa Gartref, adael ei swydd yn dilyn honiadau ganddo iddo gael ei fwlio gan Priti Patel.

Ac mae adroddiadau bod cyn-swyddog yn yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi derbyn £25,000 yn dilyn honiadau iddi hithau hefyd gael ei bwlio gan y gweinidog.

Mae Priti Patel yn gwadu’r holl honiadau.

Yr honiadau diweddaraf

Mae’r honiadau diweddaraf yn erbyn Priti Patel yn mynd yn ôl i 2017.

Dyma’r adeg pan gafodd ei diswyddo gan Theresa May, prif weinidog Prydain ar y pryd, a hithau wedi cynnal cyfarfodydd heb awdurdod â Llywodraeth Israel pan oedd hi’n Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol.

Ar ôl iddi gael ei diswyddo, mae’n debyg fod uwch swydd wedi trafod yr honiadau ag aelodau eraill o staff yr adran, gyda nifer yn dweud iddyn nhw fod yn destun gwawdio a phwysau eithriadol yn dilyn negeseuon e-bost.

Mae’r honiadau hyn yn debyg i’r rhai a ddaeth i law am ei chyfnod yn Ysgrifennydd Cartref, ac mae lle i gredu bod yr uwch swyddog wedi gofyn i’r diweddar Syr Jeremy Heywood, pennaeth y gwasanaeth sifil ar y pryd, gofnodi’r honiadau rhag ofn ei bod hi’n dychwelyd i Lywodraeth Prydain maes o law.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod a yw Priti Patel wedi torri’r côd gweinidogol.

Mae Boris Johnson yn cefnogi Priti Patel, ond mae hi dan ragor o bwysau eto i gamu o’r neilltu.