Mae Priti Patel dan bwysau cynyddol gan y Blaid Lafur i ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Cartref yn dilyn cyhuddiadau ei bod hi’n bwlio’i swyddogion.

Daw’r pwysau diweddaraf ar ôl adroddiad gan y BBC fod cyn-ymgynghorydd Priti Patel wedi derbyn £25,000 gan Lywodraeth Prydain ar ôl iddi honni ei bod wedi cael ei bwlio ganddi pan oedd Priti Patel yn Weinidog Cyflogaeth.

Yn ôl y BBC, maen nhw wedi gweld gohebiaeth sydd yn honni bod y ddynes wedi cymryd gor-ddôs o gyffuriau presgripsiwn yn dilyn y digwyddiad honedig yn 2015.

Wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim cymryd cyfrifoldeb a chafodd yr achos mo’i ddwyn gerbron tribiwnlys, meddai’r BBC.

Galw ar Priti Patel i gamu o’r neilltu

Mae Diane Abbott yn mynnu y dylai Priti Patel gamu o’r neilltu tra bod y cwynion yn ei herbyn yn destun ymchwiliad.

“Allwch chi ddim cael Llywodraeth sydd yn brwydro yn erbyn ei gweithwyr sifil,” meddai wrth BBC Radio 4.

“Mae angen ymchwiliad annibynnol gwirioneddol.

“Mi fyddai’n well pe bai’n camu o’r neilltu, mae arna i ofn.

“Rydym yn galw arni i gamu o’r neilltu tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.”

Lansio ymchwiliad i’r Cod Ymddygiad

Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet Michael Gove wrth Dŷ’r Cyffredin fod yr ymchwiliad i Priti Patel yn cael ei lansio yn dilyn ymddiswyddiad Sir Philip Rutnam o fod yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Gartref.

Daeth yr ymadawiad yn dilyn sawl ffrae gyda Priti Patel, a chyhuddiadau wedyn o fwlio yn ei herbyn.

“Mae’r Llywodraeth yma wastad yn cymryd unrhyw gyhuddiad yn ymwneud â’r côd gweinidogol o ddifri,” meddai Michael Gove.

“Ac yn unol â’r broses sydd wedi’i gosod yn y côd gweinidogol, mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i’r Swyddfa Gabinet geisio’r ffeithiau i gyd.”