Mae trigolion yng ngwledydd Prydain yn credu mai newid hinsawdd yw un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r wlad yn yr ugain mlynedd nesaf, yn ôl ymchwil sydd wedi’i arwain gan Brifysgol Caerdydd.

Awgryma arolwg o agweddau cymdeithasol tuag at effaith a risg newid hinsawdd fod y mater yn ail y tu ôl i Brexit o ran blaenoriaethau’r cyhoedd.

Mae’r arolwg, ar y cyd â Climate Outreach, hefyd yn amlygu gofidion y cyhoedd am stormydd, llifogydd a gwres eithafol, ac yn awgrymu bod cefnogaeth gref ar gyfer polisïau i ymdrin â’r rhain.

“Mae hwn yn newid nodedig ym marn y cyhoedd Prydeinig – y newid mwyaf a welsom yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai’r Athro Nick Pidgeon o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, wnaeth arwain y prosiect.

“Mae nifer o bobl yn dechrau poeni digon i fynnu bod y llywodraeth yn gweithredu ar newid hinsawdd.”

Newid agweddau

Mae grŵp Deall Risg Prifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio agweddau tuag at yr hinsawdd ers 2002, gyda newid “bach” mewn agweddau rhwng arolygon dros nifer o flynyddoedd.

Mae’r ymchwil yn rhan o’r UK Climate Resilience Programme, sy’n cael ei ariannu gan Research and Innovation a’i arwain gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol a’r Swyddfa Dywydd.

“Mae’r consensws gwyddonol yn gynyddol glir bod risgiau hinsawdd yn cynyddu mewn tebygolrwydd a difrifoldeb,” meddai Dr Kate Lonsdake, cyd-bennaeth yr UK Climate Resilience Programme.