Mae Boris Johnson wedi gofyn i Swyddfa’r Cabinet gymryd camau i “sicrhau’r ffeithiau” yn dilyn honiadau bod yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel wedi torri’r cod gweinidogol.

Roedd y gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, wedi cadarnhau bod y camau yn cael eu cymryd yn dilyn cwestiwn brys gan yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.

Mae’n dilyn honiadau a wnaed gan  Syr Philip Rutnam, prif was sifil y Swyddfa Gartref, oedd yn dweud iddo fod yn destun “ymgyrch briffio fileinig oedd wedi’i chynllunio” gan Priti Patel.

“Honiadau difrifol”

Dywedodd Downing Street eu bod nhw’n cymryd honiadau o fwlio o ddifrif ond na fyddan nhw’n gwneud sylw am yr honiadau a wnaed gan Syr Philip Rutnam yn dilyn ei benderfyniad i ymddiswyddo.

Ychwanegodd y llefarydd bod Syr Philip Rutnam yn cymryd camau cyfreithiol ac na fyddai’n gallu gwneud sylw pellach.

Dywedodd Jeremy Corbyn os yw’r “honiadau difrifol” a wnaed gan Syr Philip Rutnam ynglŷn ag ymddygiad yr Ysgrifennydd Cartref yn wir “yna fe fyddai hynny yn golygu ei bod wedi torri’r cod gweinidogol”.

“Nid yw’n ddigon i gyfeirio hyn at Swyddfa’r Cabinet, fe ddylai’r Llywodraeth benodi cyfreithiwr allanol, fel sydd wedi’i awgrymu gan undeb y gweision sifil yr FDA,” meddai Jeremy Corbyn.