Mae disgwyl i’r trafodaethau masnach cyntaf ôl-Brexit rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd (UE) ddechrau ddydd Llun (Mawrth 2).

Fe fydd David Frost, ymgynghorydd Ewrop y Prif Weinidog, a thîm o drafodwyr, yn teithio i Frwsel i ddechrau’r broses o geisio sicrhau trefniant masnach newydd gyda’r UE dros y naw mis nesaf.

Roedd y ddwy ochr wedi cyhoeddi eu mandad wythnos ddiwethaf ar gyfer y trafodaethau oedd yn datgelu nad ydyn nhw’n cytuno am alwadau Boris Johnson i gael cytundeb masnach rydd tebyg i Ganada.

Mae prif negodwr yr UE, Michel Barnier, wedi dweud nad yw cytundeb fel un Canada yn addas ar gyfer Prydain oherwydd ei chysylltiadau agos gyda’r cyfandir.

Yn hytrach mae o am weld Prydain yn cytuno i nifer o reolau a fydd yn cael eu gosod gan Frwsel. Mae’r UE hefyd am weld ychydig iawn o newid i gwotâu pysgota a mynediad i foroedd Prydain gan gychod o Ewrop ond mae gweinidogion yn San Steffan yn gwrthwynebu hynny.

Mae disgwyl i gyfarfod gael ei gynnal ym mis Mehefin i drafod y cynnydd yn y trafodaethau ac erbyn hynny fe ddylai fod yn glir a yw’n bosib cael  cytundeb fel un Canada erbyn diwedd y flwyddyn.