Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, “yn gwrtais iawn” wrth ymdrin â’i chydweithwyr, yn ôl Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd.

Daw ei sylwadau ar ôl i Priti Patel gael ei beirniadu gan Syr Philip Rutnam, ei phrif was sifil a gyhoeddodd ddoe, ar ôl iddo ymddiswyddo, ei fod e am ddwyn achos yn ei herbyn yn sgil ei hymddygiad.

Mae’n ei chyhuddo o weiddi a rhegi at staff, o arwain ymgyrch “fileinig” yn ei erbyn ac o ddweud celwydd am ei rhan yn yr helynt, yn ogystal ag o greu diwylliant o ofn yn y Swyddfa Gartref.

Mae un arall o’i chydweithwyr, yr aelod seneddol Nusrat Ghani, yn dweud bod is-lais rywiaethol i sylwadau Syr Philip Rutnam.

‘Ysgrifennydd Cartref penderfynol iawn’

“Mae Priti yn Ysgrifennydd Cartref penderfynol iawn,” meddai Matt Hancock wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Mae hi fwy na thebyg yn nes at le mae’r cyhoedd o safbwynt materion cyfraith a threfn nag unrhyw Ysgrifennydd Cartref o fewn hanes diweddar.

“Dw i’n credu ei bod hi’n gyrru pethau yn eu blaenau.

“Dw i hefyd yn credu ei bod hi’n gwrtais dros ben, a phob tro dw i wedi ymwneud â hi, mae hi wedi bod yn gwrtais iawn.

“Alla i ddim trafod manylion yr achos, nid lleiaf am ei fod yn edrych yn debygol y bydd yn mynd i’r llys, a dw i ddim yn agos at y peth.”

Celwydd?

Mewn cyfweliad arall ar Radio 5 Live, mae Matt Hancock wedi gwrthod cadarnhau neu wadu ei fod e’n cyhuddo Syr Philip Rutnam o ddweud celwydd.

“Af fi ddim i mewn i hynny,” meddai.

Yn ôl Nusrat Ghani, mewn cyfweliad ar Sky News, mae Priti Patel yn cael ei thrin yn annheg am ei bod hi’n fenyw.

“Fy mhrofiad i o weithio gyda Priti yw ei bod hi’n benderfynol iawn,” meddai.

“Mae hi’n cynnig arweiniad cryf iawn ac mae hi’n gweithredu ar agweddau pwysig iawn o’n polisi.

“Dw i’n credu ei bod yn ddyrys, os ydych chi’n cynnig arweiniad a’ch bod chi’n benderfynol, gan weithio ar gyflymdra gwych, fod hynny’n cael ei ystyried yn sgil wych ac i fenywod, weithiau mae’n cael ei ystyried yn her.”

Galw am ymddiswyddiad

Yn y cyfamser, mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, yn galw ar Priti Patel i gamu o’r neilltu.

“Alla i ddim gweld hynny, mae’n rhyfedd,” meddai, wrth gael ei holi a fydd hi’n aros yn ei swydd.

“Un o’r ffyrdd y gall y prif weinidog symud yn ei flaen yw cael ymchwiliad annibynnol ond yn ystod y cyfnod hwn, byddai’n rhaid diarddel yr Ysgrifennydd Cartref tra bod hwnnw’n mynd rhagddo.”

Mae Syr Keir Starmer, un o’r ymgeiswyr yn y ras i arwain Llafur, yn galw am eglurhad gan Priti Patel.

“Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref ddyletswydd i ddod i’r Senedd ddydd Llun er mwyn egluro’r honiadau am ei hymddygiad ei hun,” meddai.