Cafodd araith olaf Margaret Thatcher yn brif weinidog Prydain, a gyfrannodd at ei thranc, ei dylanwadu gan “anwiredd” mewn erthygl newyddion gan Boris Johnson, yn ôl dogfennau newydd sydd wedi dod i’r fei.

Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi ar Hydref 24, 1990 pan oedd y prif weinidog presennol yn Ohebydd Brwsel y Daily Telegraph, ac roedd yn trafod Jacques Delors, llywydd Comisiwn Ewrop ar y pryd.

Roedd yr erthygl yn honni bod hawl Prydain i wrthod deddfau Ewrop am gael ei ddileu, ac roedd Margaret Thatcher wedi tynnu sylw arbennig at ddwy linell gerllaw’r pennawd camarweiniol.

Wnaeth hi hefyd dynnu sylw at baragraff oedd yn dweud bod “Delors yn dweud mai bwriad y cynlluniau oedd arwain y ffordd tuag at Ffederasiwn Ewrop, goruwch-wladwriaeth gyda Chomisiwn Brwsel yn llywodraeth weithredol arni a Chyngor Gweinidogion yn senedd”.

Ond yn ôl Chris Colins o Ymddiriedolaeth Archif Margaret Thatcher, sy’n cyhoeddi’r dogfennau, doedd yr erthygl “ddim yn fanwl gywir”.

Memorandwm

Roedd memorandwm ddeuddydd yn ddiweddarach gan Richard Gozney, un o uwch swyddogion y Swyddfa Dramor, i Charles Powell, Ysgrifennydd Preifat Margaret Thatcher, yn nodi nad oedd Comisiwn Ewrop yn cyd-fynd â chynnwys yr erthygl.

“Nid yw’n cynnig unrhyw newid radical yng nghynlluniau sefydliadol presennol y Gymuned – ond mae’n cynnwys sawl erchylltra arall,” meddai.

Ar Hydref 30, traddododd Margaret Thatcher araith yn dweud “Na, Na, Na” wrth Monsieur Delors.

Fe arweiniodd at ffrae o fewn y Blaid Geidwadol, wrth i Geoffrey Howe ymddiswyddo o fod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, a arweiniodd at dranc Margaret Thatcher ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach.

Dylanwad Boris Johnson

Yn ôl Chris Collins, doedd erthygl Boris Johnson “ddim yn hollol gywir” ac roedd Margaret Thatcher yn sylweddoli hynny.

Ond mae’n credu y byddai llawer o’r Ceidwadwyr wedi darllen yr erthygl gan gredu’r hyn oedd yn cael ei ddweud am y sefyllfa ym Mrwsel.

“Tra nad ydw i’n dweud mai dyma oedd wedi achosi ei thranc – a byddai’n abswrd awgrymu hynny – mae’r hyn oedd ar waith wedi’i amlygu gan bresenoldeb yr erthygl honno,” meddai.

Mae Ymddiriedolaeth Archifau Margaret Thatcher yn cyhoeddi ei ffeiliau preifat fesul dipyn trwy Ganolfan Archifau Churchill yng Nghaergrawnt, ac maen nhw ar gael i’w gweld bellach ar www.margaretthatcher.org.