Mae Paul Golding, arweinydd Britain First, wedi gwadu cyhuddiad o drosedd frawychol.

Cafodd y dyn 38 oed ei gyhuddo ar ôl gwrthod rhoi mynediad i’r heddlu i’w ffôn symudol a sawl dyfais arall wrth iddyn nhw chwilio’i gartref fis Hydref y llynedd.

Aeth gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Iau, Chwefror 27) wrth i 26 o’i gefnogwyr fynd gyda fe i’r achos.

Mae’n gwadu gwrthod cydymffurfio â dyletswydd yn unol  â’r Ddeddf Frawychiaeth.

Cefndir

Clywodd y llys iddo gael ei stopio ym maes awyr Heathrow ar Hydref 23 y llynedd, a’i fod e wedi gwrthod rhoi’r codau ar gyfer ei ffôn.

Dywedodd wrth y llys mai “gwleidydd, nid brawychwr” yw e, a bod cymhelliant gwleidyddol i’r cyhuddiad.

Bydd yn mynd gerbron y llys unwaith eto ar Fai 20.

Dydy Britain First ddim yn blaid wleidyddol ers mis Tachwedd 2017.