Treuliodd y sefydliad gwleidyddol ddegawdau yn “anwybyddu” honiadau o gam-drin plant yn rhywiol, yn ôl ymchwiliad.

Dywed adroddiad yr ymchwiliad fod gwleidyddion adnabyddus wedi cael eu gwarchod rhag yr heddlu wrth i chwipiaid geisio osgoi “clebran a sgandal” fyddai’n gwneud niwed i’w pleidiau, a bod sefydliadau gwleidyddol wedi “methu’n llwyr yn eu hymateb i honiadau  o gam-drin plant”.

Mae’r ymchwiliad yn tynnu sylw at yr Arglwydd Steel, cyn-arweinydd y Blaid Ryddfrydol, a ddywedodd sut yr oedd wedi methu â phasio honiadau yn erbyn ei gyd-weithiwr, Syr Cyril Smith, ymlaen er ei fod o’r gred eu bod yn wir, oherwydd mai “hen hanes” ydoedd.

Aeth yn ei flaen, serch hynny, i argymell urddo Cyril Smith yn farchog, ac mae e bellach wedi ymddiswyddo o’r blaid yn sgil yr helynt, a’r disgwyl yw y bydd yn gadael Tŷ’r Arglwyddi maes o law.

Wnaeth yr ymchwiliad ddim darganfod tystiolaeth o “gylch pedoffeil” yn San Steffan er bod honiadau gan ddyn o’r enw Carl Beech bod un wedi bodoli.

Dywed yr ymchwiliad nad oes tystiolaeth bod rhwydwaith o’r fath wedi cael ei guddio gan wasanaethau diogelwch neu’r heddlu.

‘Enw da a lles gwleidyddol o flaen gwarchod plant’

Dywed yr ymchwiliad fod y sefydliad gwleidyddol yn euog o roi eu “henw da a lles gwleidyddol o flaen gwarchod plant”.

“Mae’n amlwg bod sefydliadau San Steffan wedi methu a delio â honiadau o gam-drin plant, o anwybyddu’r peth i warchod camdrinwyr,” meddai’r Athro Alexis Jay, oedd yn cadeirio’r ymchwiliad.

Mae’r ymchwiliad wedi darganfod sut yr oedd y cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher a chyn-gadeirydd y blaid Geidwadol, yr Arglwydd Norman Tebbit, yn ymwybodol o honiadau am yr Aelod Seneddol Peter Morrison a’i “duedd at hogiau bach” ond heb wneud dim am y peth.

Dylai’r honiadau fod wedi “canu clychau yn y llywodraeth” yn ôl yr ymchwiliad.

Argymhellion yr ymchwiliad

Gwnaeth yr ymchwiliad nifer o awgrymiadau megis newid y system anrhydeddu, ail-edrych ar y polisi dros ildio anrhydeddau ar ôl marwolaeth – a fyddai’n tynnu anrhydeddau oddi ar bobol fel Jimmy Saville.

Awgryma’r ymchwiliad greu polisïau adrodd honiadau sy’n ddealladwy ac eang ar gyfer holl sefydliadau San Steffan.

Mae’r Llywodraeth wedi cael ei hannog i adolygu polisïau gwarchod plant ac yn ôl yr ymchwil, dylai’r  holl bleidiau gwleidyddol gael “polisïau gwarchod cynhwysfawr sy’n cael eu gorychwilio gan bwyllgor gwarchod.”