Mae aelodau’r Blaid Lafur yn dechrau pleidleisio am olynydd Jeremy Corbyn. Bydd yr olynydd yn wynebu’r her o adnewyddu’r blaid wedi iddi gael ei threchu’n llwyr yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Bydd y bleidlais yn agor heddiw, (dydd Llun Chwefror 24), mewn ymgyrch rhwng Syr Keir Starmer, Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy.

Bydd aelodau a chefnogwyr sydd wedi talu i gofrestru yn derbyn eu pleidlais heddiw, gyda rhai yn cael eu hanfon allan drwy gydol yr wythnos drwy’r post neu ar e-bost.

Dywedodd y tri ymgeisydd ddydd Sul y byddan nhw’n cynnig swydd i’r ymgeiswyr aflwyddiannus yng nghabinet yr wrthblaid.

Bydd hefyd angen penodi dirprwy-arweinydd ymysg yr ymgeiswyr Angela Rayner, Dawn Butler, Ian Murray, Dr Rosena Allin-Khan a Richard Burgon.

Mae gan yr ymgeiswyr bron i chwe wythnos i sicrhau cefnogaeth pleidleiswyr cyn i’r bleidlais gau, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Ebrill 4.