Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi mynegi ei phryder am “honiadau ffug” sydd wedi cael eu gwneud sy’n honni ei bod wedi bwlio staff a bod diffyg ymddiriedaeth ynddi ymhlith penaethiaid cudd wybodaeth.

Roedd adroddiadau dros y penwythnos fod Swyddogion Cudd Wybodaeth yn gwrthod rhannu gwybodaeth gyda hi oherwydd diffyg hyder yn ei gallu a’i bod yn bwlio staff.

Yn ôl yr honiadau mae Priti Patel yn creu “awyrgylch o ofn” yn yr adran.

Mae’n debyg bod Priti Patel yn “gandryll” wedi mynnu fod Swyddfa’r Cabinet yn cynnal ymchwiliad i’r sïon. Ond nid oes cadarnhad fod cais swyddogol wedi ei wneud,  yn ôl swyddfa’r Cabinet.

Ond mewn datganiad cyhoeddus prin am berthynas gweinidog a’i swyddogion, gwrthododd y Swyddfa Gartref ddydd Sul, (Chwefror 2) fod Priti Patel wedi ceisio symud ysgrifennydd parhaol yr adran, Syr Philip Rutnam yn dilyn cyfres o ddadleuon.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth:

“Mae’r Ysgrifennydd Cartref ac MI5 yn gweithio’n agos ac yn dda, ac mae’r honiadau di-sail yma’n anghywir ac nid yw o fudd cyhoeddus.”

Mewn ymateb i’r honiadau ar BBC Radio 4, dywedodd cyn weinidog Ceidwadol y cabinet Theresa Villiers fod yna elfennau o atgased at wragedd yn y drafodaeth.

“Rydw i wedi cael llond bol ar drafodaethau sbeitlyd am fenywod mewn uwch swyddi cyhoeddus,” meddai.

“Mae’n digwydd dro ar ôl tro a dydw i ddim yn credu’r honiadau yma yn erbyn Priti Patel.”